CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Paul Smith CTA  

Swyddfa Hwlffordd : 01437 765556 
Graddiodd Paul o Goleg Imperial, Llundain a dechreuodd ar ei hyfforddiant ym maes cyfrifeg yn y lle cyntaf gyda chwmni yn Cirencester. Roedd yn awyddus i ddychwelyd adref i Sir Benfro felly ymunodd ag Ashmole & Co. ym 1990, daeth yn Ymgynghorydd Treth Siartredig ym 1994 ac yn bartner yn y cwmni ym 1996. Mae Paul yn ymdrin â phob agwedd ar gyfrifyddu cyffredinol a materion trethiant, yn benodol busnesau bach sy’n cael eu rheoli gan y perchenogion ac mae’n arbenigo yn y sector amaethyddol a threthiant busnes. 
 
Cred Paul fod y cyswllt cyson rhwng cleientiaid a phartneriaid Ashmole & Co. yn allweddol i gynnal perthynas waith broffesiynol dda â’r cleientiaid. 
 
Mae Paul yn byw yng ngogledd Sir Benfro, mae’n briod ac mae ganddo un ferch. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau DIY, cerdded a threulio amser gyda’r teulu.