Sefydlwyd ers 1897, mae Ashmole & Co. Yn weithredol mewn 12 swyddfa ar draws De a Gorllewin Cymru ac wedi datblygu toreth o brofiad dros drawstoriad eang o faterion cyfrifo a threthu.
PROFFESIYNOLDEB
Mae ein penaethiaid yn aelodau o gyrff cyfrifwyr siartredig a thollau ac yn rheoledig gan ACCA sy’n sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal bob tro.
PROFIAD
Mae ein 13 pennaeth yn gallu tynnu ar gyfuniad o dros 200 mlynedd o brofiad fel swyddfa weithredol.
DEALLTWRIAETH
Anelwn at ddealltwriaeth lawn o’ch busnes a fydd yn ein galluogi i gynnig y cyngor gorau posib sy wedi ei deilwrio’n uniongyrchol i’ch anghenion penodol.
YMATEBOL
Ymdrechwn i gwrdd â’ch terfynau amser a chyda 75 o staff hyfforddedig rydym yn medru darparu cyngor cyfoes.
GWASANAETH PERSONOL
Ymfalchïwn mewn bod yn gyfeillgar ac agos atoch lle mae pob cleient â chyswllt pennaeth gwarantedig.
MEYSYDD ARBENIGOL
Mae gan Ashmole & Co. nifer o gleientiaid yn y sectorau isod. O ganlyniad mae gennym ddealltwriaeth fanwl a thrylwyr o sut mae pob sector yn gweithredu sy’n ein galluogi i gynnig cyngor blaenweithgar i gleientiaid sy’n cwrdd â’u gofynion penodol .
Cyfreithwyr
Ffermio
Meddygfeydd Elusennau
Diwydiant Adeiladwaith
Twristiaeth a Hamdden
Our site uses cookies. For more information, see our cookie policy.
Accept cookies and close