Daw Dylan yn wreiddiol o Sir Benfro ac mae’n siaradwr Cymraeg, enillodd radd mewn Economeg a Chyfrifeg ym Mhrifysgol Cymru. Daeth yn gymwysedig ym 1988 wrth weithio i’r awdurdod iechyd yng Nghaerdydd ac yn dilyn hyn ymunodd ag Ashmole & Co. ym 1989 a chafodd ei benodi’n bartner ym 1994. Mae Dylan yn ymdrin â phob agwedd ar drethi busnes a chyfrifeg gyffredinol ac mae’n arbenigo yn y sectorau amaethyddol, elusennol a chyfreithiol. Mae’n briod â Michelle, ac yn ei amser hamdden mae’n mwynhau dilyn ei ddiddordebau sef beicio a ffotograffiaeth. Fel mab i Ffermwr, mae’n dal i ddiddori mewn materion cyllidol ag amgylcheddol y diwydiant amaeth yn ogystal â cynhorthwyo yn reolaedd yng ngwaith y fferm deuluol. Mae’n drysorydd Capel Bedyddwyr Blaenconin ac yn aelod o Gȏr Harmo-ni ar cylch, a Clwb 41 Arberth a Hendy-Gwyn.