CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Cyfrifon 

Mae’n ofynnol i bob busnes baratoi cyfrifon blynyddol ar ryw ffurf neu’i gilydd, boed yn gyfrif elw a cholled neu’n gyfres o gyfrifon statudol fwy cymhleth. 
 
Yn Ashmole & Co, gallwn ddarparu gwasanaeth cynhyrchu cyfrifon cynhwysfawr ar gyfer cleientiaid yn dibynnu ar eu maint a’u hanghenion. 
 
Cwmni cyfyngedig 
Partneriaethau (gan gynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig) 
Unig fasnachwyr 
Elusennau 
Clybiau 
Ymddiriedolaethau 
 
Mae gennym gleientiaid sy’n amrywio o’r rhai â’u cyfrifwyr mewnol eu hunain, i’r rheini heb ddim profiad o gadw cyfrifon na hoffter o waith gweinyddol. Rydym yn ceisio trafod eich cyfrifon â chi, gan roi arweiniad a chyngor rhagweithiol i helpu eich busnes i symud ymlaen. 
 
Gallwn ddarparu cyfrifon rheoli bob mis, yn chwarterol neu bob hanner blwyddyn i sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth amser real i’ch helpu chi wrth wneud eich penderfyniadau busnes. 
 
Rydym hefyd wedi ein hyfforddi’n llawn mewn pecynnau cyfrifiadurol i gadw cyfrifon megis, Sage a Quickbooks, felly os ydych yn defnyddio’r systemau hyn gallwn ddefnyddio data wrth gefn fel sail i baratoi eich cyfrifon.