CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Busnesau Newydd 

Mae busnesau newydd fel arfer wedi’u sefydlu o gwmpas pobl entrepreneuraidd sydd â syniad da a’r ymrwymiad i’w wireddu. 
 
Mae dechrau busnes newydd yn fenter heriol â llawer o agweddau i’w hystyried sy’n gofyn am ryw fath o lefel o arbenigedd. Yn Ashmole & Co. rydym yn gallu darparu arbenigedd ariannol i’ch cynorthwyo yn ystod cam datblygu eich busnes i gyflawni’r llwyddiant yr ydych yn ei ddymuno. 
 
Rydym yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim heb ymrwymiad lle gallwch gyflwyno eich syniadau i ni a gallwn eu gwerthuso mewn modd adeiladol. Gallwn eich helpu â’r canlynol: 
 
Dewis y strwythur mwyaf addas 
Ffurfio eich cwmni lle y bo’n briodol 
Cynghori ar gofrestru gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Tŷ’r Cwmnïau 
Darparu rhagamcaniad llif arian a chyllidebau 
Cynorthwyo â chynllun busnes 
Cyngor ar feddalwedd gyfrifyddu gyfrifiadurol 
Darparu hyfforddiant ar feddalwedd gyfrifyddu gyfrifiadurol 
Cynorthwyo â nodi mynediad at gyllid 
Asesu eich systemau ariannol i gydymffurfio â gofynion statudol 
Cynnal adolygiad busnes i helpu i sicrhau’r elw mwyaf