Mae Ashmole & Co. yn archwilwyr cofrestredig ac yn gallu cynnig ystod gyflawn o wasanaethau archwilio i gwmnïau a sefydliadau o bob maint a math.
Mae’r broses yn bwysig i arddangos cywirdeb datganiadau ariannol a darparu lefel o sicrwydd i ddefnyddwyr yr wybodaeth. Rydym o’r farn y dylai’r gwaith archwilio sy’n cael ei gyflawni ychwanegu gwerth at eich busnes, ac rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i nodi problemau rheolaeth fewnol posibl a pheryglon twyll er mwyn rhoi argymhellion ar unrhyw ddiffygion sylweddol yr ydym yn eu nodi.
Mae archwiliad statudol yn ofyniad cyfreithiol os yw cyfyngiadau penodol yn cael eu bodloni, fodd bynnag, rydym hefyd yn darparu’r gwasanaeth hwn ar gyfer sefydliadau a allai benderfynu cael archwiliad hyd yn oed os ydynt islaw’r trothwy.
Rydym yn ymgymryd â gwasanaethau archwilio i gwmnïau eraill:
Cyfreithwyr
Busnesau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Elusennau
Clybiau
Cymdeithasau Llesiant
Asiantau Tai
Busnesau sy’n cael eu rheoleiddio gan ABTA