Bu Vinal yn byw ym Mrynaman o 1986 nes iddo symud i Rydaman yn 2017. Ymunodd â swyddfa Rhydaman i hyfforddi yn 2002. Wedi cwblhau ei gymhwyster treth llwyddodd i gymhwyso fel cyfrifydd siartredig ardystiedig yn 2021, yn ogystal â gwasanaethu’r gymuned leol fel ymladdwr tân wedi’i gadw am 10 mlynedd.
Mae Vinal yn delio gyda phob agwedd o gyfrifo a chyngor treth. Mae’n ymfalchïo mewn adeiladu perthynas gwaith da gyda chleientiaid, i fod yn gyfeillgar ac ar gael i helpu cleientiaid pan fo’r angen i gyflawni eu hamcanion.
Mae Vinal wedi ymwneud â chwaraeon trwy’i fywyd, wedi chwarae rygbi i glwb rygbi Brynaman am sawl blwyddyn, ac yn fwy diweddar wedi cystadlu mewn sawl triathlon gan gynnwys Ironman Cymru 2023.
Mae Vinal yn byw gyda’i wraig Non, eu merch a’r ci. Yn ei amser rhydd yn ogystal â threulio amser gyda’r teulu a chefnogi ei ferch yn cymryd rhan mewn chwaraeon, mae hefyd yn mwynhau bod yn gefnogwr gydol oes i dîm pêl droed Lerpwl, ac yn parhau i nofio, seiclo a rhedeg.