CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Sam Jones ACCA MAAT  

Swyddfa Llandeilo: 01558 822481 
Ymunodd Sam Jones gyda’r Cwmni yn 2015 fel cyfrifydd dan hyfforddiant yn swyddfa Rhydaman. Cwblhaodd ei gymhwyster AAT cyn symud ymlaen i gymhwyso fel Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig yn 2022. Erbyn hyn, ei brif swyddfa ydy Llandeilo ble mae’n delio gydag ystod eang o gleientiaid yn amrywio o fasnachwyr unigol i gwmnïau mwy o faint ac elusennau sydd angen archwiliad statudol allanol. Wedi tyfu lan ar y fferm deuluol mae gan Sam ddiddordeb penodol yn y sector amaethyddol. 
 
Trwy gydol ei fywyd mae Sam wedi ymddiddori mewn chwaraeon, yn chwarae pêl droed a rygbi i Tymbl o oed ifanc cyn symud at redeg, seiclo a nofio, gan gwblhau Ironman Cymru yn 2025. Mae Sam hefyd yn gefnogwr oes tîm pêl droed dinas Abertawe. 
 
Mae Sam yn byw gyda’i bartner Cath, eu mab Llew a’r ci, Sid. Yn ei amser sbâr mae’n mwynhau treulio amser gyda’r teulu, yn darganfod gwledydd gwahanol a gyrru ar draws Ewrop yn y camperfan.