CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Karl Wilcox BSc, ACCA  

Swyddfa Aberteifi : 01239 612162 
 
Mae Karl wedi byw yng Ngheredigion ers 1989. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2003 ar ôl astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda’r Gyfraith. Ymunodd ag Ashmole & Co. ym mis Mehefin 2003 fel cyfrifydd dan hyfforddiant ac mae wedi symud ymlaen yn y cwmni o dan arweiniad Dylan Harries, gan ddod yn bartner yn 2011. 
 
Mae Karl yn ymdrin â phob agwedd ar gyfrifyddu a chyngor treth ond mae’n mwynhau gweithio fwyaf gyda busnesau newydd a busnesau teuluol. Mae’n well ganddo fod yn rhan annatod o lwyddiant eich cwmni yn hytrach na bod yn ymgynghorydd treth oeraidd. Mae’n ymfalchïo mewn bod yn hawdd mynd ato a’r ffaith ei fod ar gael pan fyddwch ei angen fwyaf. 
 
Mae Karl yn briod ag Amy ac mae ganddynt bedwar o blant hyfryd. Mae ei ddiddordebau’n ymwneud â chwaraeon ac mae’n mwynhau unrhyw beth sy’n golygu her gorfforol, er nad yw’n teimlo mor ifanc â hynny bellach. Mae’n ymwneud yn helaeth â’i eglwys ac ar hyn o bryd yn cynnal gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn ne orllewin Cymru a bu hyd yn oed ar genhadaeth am ddwy flynedd dros yr eglwys pan oedd yn 19 oed.