Cymhwysodd Ceri yn Gyfrifydd Siartredig gydag PriceWaterhouseCoopers yn 2004 ar ôl cael gradd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth yn 2001. Daeth yn bartner yn Ashmole & Co. yn 2008 pan agorodd y cwmni swyddfa yn Llanymddyfri. Mae Ceri yn siaradwr Cymraeg ac mae’n ymdrin ag ystod eang o gleientiaid sy’n amrywio o unig fasnachwyr bach i gwmnïau mawr ac elusennau y mae angen archwiliad statudol arnynt. Mae ganddi ddiddordeb penodol ac arbenigedd mewn amaethyddiaeth, cyfreithwyr, y sector adloniant ac elusennau.
Yn ei hamser hamdden, mae Ceri’n mwynhau treulio amser gyda’i ddau fab, gwylio rygbi ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth. Yn y gorffennol mae wedi chwarae gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, cyfeilio i gorau ieuenctid lleol amrywiol, ac mae ar hyn o bryd yn canu gyda Chôr Llanddarog a’r Cylch.