CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG  
Tyfu, Meithrin, Llwyddo 
 
CYFRIFWYR ARDYSTIEDIG SIARTREDIG & ARCHWILWYR COFRESTREDIG 
Grow, Nuture, Succeed 

 Laura Croddock, BSc (Econ), FCCA  

Swyddfa Rhydaman : 01269 594573 
Mae Laura yn lleol i ardal Rhydaman ac wedi ei magu gerllaw ym Mhenygroes a mynychodd Ysgol Gyfun Tregib yn Llandeilo. Mynychodd Laura Brifysgol Caerdydd gan ennill gradd mewn Cyfrifeg ac Economeg ym Mehefin 2000. Yn 2000 fe ddechreuodd ei hyfforddiant cyfrifeg gyda chwmni lleol yn ei hadran archwilio a chorfforaethol. Ymunodd Laura gyda Ashmole & Co yn 2002 ac fe gymhwysodd fel aelod o ACCA yn 2003 gan ddod yn bartner yn 2016. Mae Laura yn siaradwraig Cymraeg ac mae’n delio gydag ystod eang p gleientiaid yn amrywio o unig fasnachwyr i gwmnïoedd yn fwy ac elusennau ble sy’n ofynnol iddynt gael eu harchwilio. Mae Laura o’r farn mai cyswllt cyson gyda’n cleientiaid gan y partneriaid a’r staff yn Ashmole & Co sy’n allweddol bwysig er mwyn cadw perthynas proffesiynol da gyda’n cleientiaid. 
 
Mae Laura yn byw yn Llandybie gyda’i gwr Paul a’u dwy o ferched. Yn ei hamser sbâr yn ogystal â threulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau mae’n mwynhau rhedeg a cherdded. Yn 2015 gyda’i chyd weithwyr o Ashmole & Co fe gwblhaodd mewn 24 awr her y tri chopa Prydeinig yn llwyddiannus. 
Our site uses cookies. For more information, see our cookie policy. Accept cookies and close
Reject cookies Manage settings